Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg – ffoniwch 0330 414 6421 i siarad â’r tîm os gwelwch yn dda. 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw’r corff cyhoeddus annibynnol yn y DU sydd wedi’i sefydlu i hybu’r cyfle i weld gwybodaeth swyddogol ac i ddiogelu gwybodaeth bersonol. Rydym yn gorfodi’r Ddeddf Diogelu Data, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Rydym yn darparu canllawiau ar gyfer sefydliadau ac unigolion er mwyn hybu ymwybyddiaeth o hawliau a rhwymedigaethau ym maes gwybodaeth, sicrhau y cydymffurfir â’r gyfraith a hybu arferion da. Rydym yn dyfarnu ar gŵynion cymwys ac rydym yn gallu gweithredu pan fydd y gyfraith yn cael ei thorri.

Ddeddf Diogelu Data

Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i bobl, gan gynnwys yr hawl i wybod pa wybodaeth amdanyn nhw sy’n cael ei chadw a’r hawl i gywiro gwybodaeth sy’n anghywir. Mae’r Ddeddf yn hybu buddiannau unigolion drwy ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau reoli gwybodaeth bersonol mewn modd cyfrifol.

Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig

Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig yn ategu’r Ddeddf Diogelu Data drwy reoleiddio sut y gall cyfathrebu electronig gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata i unigolion a sefydliadau pan nad ydyn nhw wedi gofyn amdano.

Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl gyffredinol i bobl weld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan y mwyafrif o awdurdodau cyhoeddus. Mae’r Ddeddf yn anelu at greu diwylliant agored ac atebol ar draws y sector cyhoeddus, ac mae’n caniatáu gwell dealltwriaeth o sut mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, pam maen nhw’n cymryd y penderfyniadau y maen nhw’n eu cymryd a sut maen nhw’n gwario arian cyhoeddus.

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn gyfrwng ychwanegol i bobl sydd am weld gwybodaeth am yr amgylchedd. Mae’r Rheoliadau yn gymwys i fwy o sefydliadau na’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan gynnwys rhai cyrff yn y sector preifat, ac mae llai o eithriadau ynddyn nhw.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r adran o’r Llywodraeth sy’n ein noddi ni.

Yr wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg

Sut i gael copïau caled o’n canllawiau

Rydyn ni’n cyhoeddi amrywiaeth mawr o daflenni, nodiadau cyfarwyddyd, canllawiau a deunyddiau hyfforddi i unigolion a sefydliadau. Mae’n cyhoeddiadau ni’n ymdrin â’r meysydd canlynol:

  • gwybodaeth am ddiogelu data;
  • gwybodaeth am ryddid gwybodaeth; a
  • gwybodaeth am yr ICO.


Mae’n cyhoeddiadau ni i gyd ar gael am ddim, ond mae yna ben draw ar faint o gopïau y cewch eu harchebu, sef 5 ar gyfer unigolion a 50 ar gyfer sefydliadau.

I gael copïau drwy’r post, anfonwch neges e-bost at cymru@ico.org.uk gan roi’r wybodaeth ganlynol:

  • teitl y canllaw(iau) yr hoffech eu cael
  • sawl copi
  • eich enw
  • eich cyfeiriad post

Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg

Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2017-18

Hysbysiad preifatrwydd

I gael gwybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud â data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.