Wrdw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Iaith a siaredir ym Mhacistan a gogledd India yw Wrdw, Urdu neu 'Wrdw Fodern Safonol' (اردو, traws. Urdū; a adwaenir hefyd fel Lashkari, لشکری[1]). Mae'n iaith sy'n perthyn i'r gangen Indo-Irananidd o'r teulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Wrdw yw iaith swyddogol Pacistan, ac mae'n un o ieithoedd swyddogol India. O ran nifer o siaradwyr brodorol, mae oddeutu'r ugeinfed safle ymhlith ieithoedd y byd.

Hi yw iaith swyddogol (a lingua franca) Pacistan a Nepal ac mae'n un o 22 iaith swyddogol India, fel a nodir yng Nghyfansoddiad y wlad ac yn weithredol mewn chwe thalaith: Jammu a Kashmir, Telangana, Uttar Pradesh, Bihar, Jharkhand a Gorllewin Bengal ac yn y brifddinas Delhi.

Ffurf Persiaidd ar Hindustaneg yw Wrdw. Mae'r iaith Hindi yn ffurf arall ar Hindustaneg. Y prif wahaniaeth rhwng y ddwy iaith yw'r sgript a ddefnyddir; mae Wrdw'n defnyddio'r Sgript Berso-Arabaidd, tra mae Hindi'n defnyddio'r sgript Devanāgarī.

Er ei bod yn gymharol ifanc fel iaith lenyddol, mae corff sylweddol o farddoniaeth, rhyddiaith a thestunau crefyddol Wrdw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1. Khadija Shakeel, Ghulam Rasool Tahir, Irsha Tehseen, Mubashir Ali, "A framework of Urdu topic modeling using latent dirichlet allocation (LDA)", Computing and Communication Workshop and Conference (CCWC) 2018 IEEE 8th Annual, tt. 117-123, 2018.