Mae llawer o hoffter tuag at Trem y Glyn yng Nglynnedd ac rwy am weld hynny’n parhau. Fel llawer o bobl, yr wyf wedi fy siomi gan ymgynghoriad Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gau Trem y Glyn yng Nglyn-nedd o 2022. Rwy’n cydnabod, wrth gwrs, y mae’n rhaid i’r Cyngor gynllunio ei ddarpariaeth o ofal preswyl yn seiliedig ar ragamcanion dibynadwy o alw ac rwyf wedi dweud yn gyhoeddus fy mod yn cefnogi polisi sy’n galluogi pobl sydd am gael gofal yn y cartref i gael gofal priodol yno. Fodd bynnag, mae Trem Y Glyn yn gyfleuster poblogaidd ac mae’n bwysig bod yna gartrefi gofal ym mhob rhan o ardal Castell-nedd.
Rwyf eisoes wedi pwyso ar y Cyngor am sicrwydd ar nifer o faterion. Yr wyf yn ceisio sicrwydd y bydd y gwasanaeth preswyl a ddarperir yn Nhrem y Glyn, gan gynnwys staffio, cynnal a chadw ac addurno yr adeilad presennol yn cael ei gynnal hyd nes unrhyw benderfyniadau pellach ar gau. Byddaf hefyd am sicrhau – ynglyn â’r cyfnod ar ôl unrhyw benderfyniad i gau – y bydd cyfleusterau digonol yn parhau I ddarparu gofal mewn cartrefi preswyl eraill ar gyfer rhai sydd ei angen, a hefyd yn y gymuned, ynghyd â threfniadau boddhaol am seibiant ac i gefnogi gofalwyr yn gyffredinol.
Fel yr esboniais yn yr Evening Post, credaf fod yn rhaid i ni nawr chwilio am ffyrdd creadigol ymlaen. Mae yma weithlu ymroddedig a llawer o gefnogaeth yn y gymuned. Hoffwn weld y Cyngor yn gweithio law yn llaw fel partner gyda’r gymuned, i chwilio am ffyrdd eraill i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn Nhrem y Glyn – efallai drwy fenter gymdeithasol neu fodel gydweithredol lleol. Efallai yn darparu gofal preswyl a chymunedol hyblyg. Mae cynlluniau ar raddfa lai tebyg wedi cael eu datblygu mewn mannau eraill yng Nghymru, gyda chryn lwyddiant – ond dyma fyddai’r tro cyntaf i gynllun o’r fath gael ei lansio ar raddfa fel hon.
Os ydych yn credu y dylem wneud popeth y gallwn i gadw Trem y Glyn ar agor, gyda chefnogaeth gymunedol, cysylltwch â mi os gwelwch yn dda.