Andorra
|
|||||
Arwyddair: Virtus Unita Fortior | |||||
Anthem: El Gran Carlemany, Mon Pare | |||||
Prifddinas | Andorra la Vella | ||||
Dinas fwyaf | Andorra la Vella | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Catalaneg | ||||
Llywodraeth | Tywysogaeth | ||||
• Cyd-dywysog Ffrengig • Cyd-dywysog Esgobol • Pennaeth Llywodraeth |
François Hollande Joan Enric Vives Sicília Antoni Martí |
||||
Annibyniaeth • Paréage |
1278 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
468 km² (193fed) Dim |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2004 - Dwysedd |
67,313 (202fed) 69,150 152/km² (69fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2003 $1.9 biliwn (183fed) $26,800 (-) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (-) | - (-) – - | ||||
Arian cyfred | Ewro (EUR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .ad | ||||
Côd ffôn | +376 |
Gwlad fechan yn ne-orllewin Ewrop yw Tywysogaeth Andorra neu Andorra sy'n ffinio â Ffrainc a Sbaen. Wedi'i chuddio bron ym mynyddoedd y Pyreneau, mae tywysogaeth Andorra'n dibynnu ar y diwydiant twristiaeth yn bennaf. Gwlad yn llawn dyffrynnoedd cul a thirwedd fynyddig ydyw a'i phrifddinas yw Andorra la Vella, sef y brifddinas uchaf yn Ewrop o lefel y môr: 1023 m.[1]
Mae dros ddeng miliwn o dwristiaid yn heidio i'r wlad hon bob blwyddyn, fe'u denir gan sgïo, y tywydd braf a'r ystod eang o nwyddau rhad o gymharu â'r gwledydd sy'n ffinio â hi.
Ers dros saith gan mlynedd bellach, rheolir y wlad ar y cyd gan arweinydd Ffrainc ac Esgob Urgell o Sbaen. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym 1993 gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol yno. Prif Weinidog y wlad yw Albert Pintat o'r Blaid Ryddfrydol a chafodd ei ethol wedi'r etholiadau cyffredinol yn Ebrill 2005. Er bod y cyd-dywysogion yn dal i fod yn arweinwyr y wlad, rôl anrhydeddus sydd ganddynt mewn gwirionedd.
Ceir poblogaeth o 64,000 yn y wlad, er bod llawer o'r rheiny'n hannu o Sbaen yn wreiddiol. Yr iaith swyddogol yw'r Gatalaneg er bod Sbaeneg ac, i raddau llai, Ffrangeg hefyd yn cael eu siarad. Prif grefydd y wlad yw Cristnogaeth ac mae Andorra'n un o'r gwledydd sy'n defnyddio'r Ewro. Mae'n cynhyrchu ei fersiynau eu hunan o'r darnau Ewro, fel pob un arall o'r gwledydd sy'n rhan o'r Ewro.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae cofnodion am fodolaeth Andorra fel gwladwriaeth yn dyddio i 1278 pan gafodd y wald ei rhoi dan gyd-arglwyddiaeth Esgob Urgell, yn Sbaen, a'r Cownt de Foix yn Ffrainc (ac yn ddiweddarach Coron Ffrainc). Heddiw mae'r drefn yn dal i fodoli, er bod arlywydd Ffrainc wedi cymryd lle'r Goron ffiwdal. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym 1993, gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Andorra yn un o wledydd lleiaf Ewrop a'r byd. Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Ewrop rhwng Ffrainc a Sbaen. Amgylchynir y wlad yn gyfangwbl bron gan fynyddoedd y Pyreneau, ac eithrio yn y de-orllewin lle mae Dyffryn Andorra yn ymagor i dalaith Lerida yn Sbaen.
Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae diwylliant Andorra wedi ei dylanwadu gan ei dau gymydog mawr, Ffrainc a Sbaen. Yr iaith swyddogol yw'r Gatalaneg, ond yn ogystal mae Sbaeneg ac, i raddau llai, Ffrangeg yn cael eu siarad.
Prif grefydd y wlad yw Cristnogaeth Gatholig.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Twristiaeth yw'r sector pwysicaf o lawer yn economi Andorra. Mae awyr braf y mynyddoedd, y cyfe i sgïo, a'r ffaith fod prisiau'n llai yn Andorra nag yn Ffrainc a Sbaen, yn denu miloedd o bobl yno ar eu gwyliau. Mae'r wlad yn yr ardal Ewro.