|
Rhagymadrodd | Introduction
Cymhariaeth | Comparison
Gwaith mewn llaw | Work in hand
Geiriadur ar lein cryno | Concise online Dictionary
AIL ARGRAFFIAD O ADRAN A-B O'R GEIRIADUR
|
A SECOND EDITION OF THE A-B SECTION OF THE DICTIONARY
|
|
Introduction
|
Yn
2002 cyhoeddwyd cyfrol olaf Geiriadur Prifysgol Cymru, gan gwblhau'r
geiriadur hanesyddol Cymraeg cyflawn cyntaf erioed a oedd yn ffrwyth
dros 80 o flynyddoedd o lafur, ond nid yw iaith fyw yn aros yn ei
hunfan, ac felly mae angen diwygio geiriaduron ieithoedd byw o hyd. Nid
yw ysgolheictod yn aros yn ei unfan ychwaith. Y mae dros hanner canrif
wedi mynd heibio oddi ar gyhoeddi'r rhan gyntaf o'r Geiriadur yn 1950,
adeg pan nad oedd testunau mor sylfaenol â golygiad Thomas Parry o waith
Dafydd ap Gwilym wedi eu cyhoeddi, heb sôn am yr holl destunau sydd wedi
ymddangos oddi ar hynny. Nid oes angen ond cymharu dangoseiriau'r
Geiriadur â geiriaduron a grewyd o'r newydd yn ddiweddar, fel
Geiriadur Gomer i'r Ifanc a'r Geiriadur Ffrangeg--Cymraeg
Cymraeg--Ffrangeg i sylweddoli faint o eiriau newydd sydd wedi dod
yn rhan annatod o'r iaith -- nid termau technegol yn unig ond geiriau a
ystyrir yn rhan o'r iaith ac a glywir ar y radio a'r teledu bob dydd,
fel cyfrifiadur, cymuned, a chyfathrebu. Nid oes yr
un o'r rhain yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru eto.
Paratowyd y rhannau sy'n trin geiriau'n dechrau ag a- a b-
ar raddfa lawer cynilach na gweddill y Geiriadur. Mae
Prifysgol Cymru a Chyngor
Cyllido Addysg Uwch Cymru yn
ariannu ailolygu A--B. Y mae'r staff yn ailolygu testun y Geiriadur i safon rhannau diweddaraf yr
argraffiad cyntaf yng ngoleuni'r holl slipiau ychwanegol sydd wedi eu
casglu er cyhoeddi'r rhannau cynharaf, gan ddefnyddio'r dulliau
diweddaraf o chwilio am enghreifftiau pellach ac am eiriau newydd.
Amcangyfrifir y bydd maint y rhan hon o'r Geiriadur yn dyblu, a
chyhoeddir ffrwyth yr ymchwil newydd ar ffurf rhannau 64-tudalen yn
debyg i'r rhannau gwreiddiol o ran diwyg.
Bydd tanysgrifwyr i'r gwaith yn derbyn gostyngiad o draean yn y pris.
Y pris arferol fydd £9.99 y rhan, ond bydd tanysgrifwyr, boed yn
sefydliadau neu'n unigolion, yn gallu prynu pob rhan fel y maent yn
ymddangos am £6.66 yr un yn unig, a hynny drwy gerdyn credyd os dymunir.
(gw. Cyhoeddiadau)
Bwriedir symud ymlaen wedyn i
ailolygu'r Geiriadur o C hyd Z gan
gynnwys y toreth o eiriau newydd sydd wedi dod yn rhan o'r iaith er cyhoeddi'r
rhannau gwreiddiol, ac i fanteisio ar yr ysgolheictod diweddaraf.
|
The final volume of Geiriadur Prifysgol Cymru
was published in 2002, completing the first complete historical dictionary of Welsh, but
living languages do not stand still, and all dictionaries of living languages need regular
revision. Neither does scholarship stand still. Over half a century has passed since the
first part of the Dictionary was published in 1950, at a time when such important texts as
Thomas Parry's edition of the work of Dafydd ap Gwilym, for instance, had not been published,
not to mention all the texts which have been edited since then. One only has to compare the
headwords of the Dictionary with those of recently compiled dictionaries, such as Geiriadur
Gomer i'r Ifanc and the Geiriadur Ffrangeg--Cymraeg Cymraeg--Ffrangeg to realize
how many new words have become an inextricable part of the language -- not just technical terms
but words which are heard every day on the radio and television, such as cyfrifiadur
'computer', cymuned 'community', and chyfathrebu 'communicate'. Not one of these
can be found in the first edition of Geiriadur Prifysgol Cymru.
The parts dealing with words beginning with a-
and b- were prepared on a much more condensed scale than the rest of the Dictionary.
The University of Wales and the Higher Education Funding Council for Wales are funding the
re-editing of A--B. The staff are re-editing the Dictionary text to the same standard
as the most recent parts of the first edition, incorporating the additional material collected
since the earliest parts were published, using the latest techniques to search for further
examples and new words. It is estimated that the size of this part of the Dictionary will
double, and the results of the research will be published as 64-page parts, similar in appearance
to the original parts.
Regular subscribers to the work will receive a one-third
reduction in the price. The normal price will be £9.99 per part, but both individual and
institutional subscribers can receive each part as it is published for just £6.66 and pay by
continuous credit card authority, if desired. (see Publications)
It is intended subsequently to continue re-editing the
Dictionary from C to Z incorporating the enormous number of new words which have become
part of the language since the publication of the original parts, and drawing on the latest scholarship.
|
Cymhariaeth (yn seiliedig ar y chwe rhan gyntaf) /
Comparison (based on first six parts)
|
Argraffiad Cyntaf
First Edition
|
Cynnydd / Growth
|
Ail Argraffiad
Second Edition
|
6,484 o Ddangoseiriau
/ Headwords
|
+25.2%
|
8,120 o Ddangoseiriau
/ Headwords
|
15,418 o Ddyfyniadau
/ Quotations |
+143.4%
|
37,527 o Ddyfyniadau
/ Quotations
|
424 o Gyfuniadau
/ Collocations |
+72.4%
|
731 o Gyfuniadau
/ Collocations
|
|
|
Work in progress
|
Cynigir gwaith mewn llaw yma ar gyfer sylwadau.
Dylid cofio mai drafft yn unig sydd yma, nid y gwaith gorffenedig ac mae'n
debyg y bydd cryn dipyn o ddiwygio rhwng y drafft hwn a'r fersiwn argraffedig
terfynol. Cyhoeddir y gwaith mewn rhannau 64-tudalen. Cyn gynted ag y bydd
rhan yn barod i'w chyhoeddi, fe'i dileir o'r wefan hon. Ni ddylid dyfynnu
o'r proflenni hyn mewn gwaith academaidd gan nad hwn fydd y fersiwn terfynol.
Os oes rhaid dyfynnu, gellid dweud 'o ddrafft o waith mewn llaw'. Ni fydd
y proflenni yn aros yn hir ar y wefan, felly nid oes diben rhoi cyfeiriad
atynt ar ffurf URL.
Mae'r proflenni ar ffurf ffeiliau PDF
('Portable Document Format' Adobe). Mae angen
Adobe
Acrobat Reader i weld a phrintio'r proflenni hyn, ond mae ar gael am
ddim ar gyfer y rhan fwyaf o systemau. Bydd angen instalio Acrobat Reader
drwy glicio ar y ddolen gyswllt uchod oni bai bod Acrobat Reader ar eich
system yn barod. Gellir printio'r tudalennau hyn at ddefnydd personol, ond
ni ddylid eu dosbarthu na'u copïo mewn unrhyw ffordd. Mae modd chwilio
testun y ffeiliau PDF ond am resymau diogelu hawliau deallusol ni cheir
copïo'r testun (yn ddarostyngedig i eithriadau arferol Hawlfraint ynghylch
'defnydd teg' ac at bwrpasau adolygu ac yn y blaen).
Croesewir sylwadau adeiladol, a hefyd
gywiriadau ac ychwanegiadau megis enghreifftiau cynharach, ffurfiau lleol
neu dafodieithol, tystiolaeth o enwau lleoedd, a.y.b. Dylid e-bostio sylwadau
o'r fath at:
geiriadur@cymru.ac.uk. Gwerthfawrogir
eich cymorth.
|
Work in progress
will be offered here for review.
It should be remembered that this is only a draft, not the finished work,
and that there will probably be considerable revision between this draft
and the final printed version. The work will be published in 64-page parts. As soon as a part is ready for publication, it will
be deleted from this website. These proofs should not be cited in academic
work, as this will not be the final version. If this material must be cited,
it may be referred to thus: 'from a draft of work in progress'. These proofs
will not be on the website very long, therefore it is pointless to refer
to them by URL.
These proofs are presented in PDF form
(= 'Portable Document Format' by Adobe).
Adobe
Acrobat Reader will be required to read these proofs, but it is available
free of charge for most types of computer to allow you to view and print
these pages by following the above link unless it is already installed on
your system. These pages may be printed for personal use, but they should
not be copied or distributed to others in any form. It is possible to search
these PDF files, but in order to protect the University's intellectual rights
it is not permitted to copy the text (subject to the usual Copyright exceptions
for 'fair use' and review purposes, &c.).
Constructive comments will be most
welcome, as will corrections and additions such as antedatings, additional
information about regional or dialect forms, place-name evidence, etc. Such
comments should be e-mailed to:
dictionary@wales.ac.uk. Your
help is very much appreciated.
|
AIL ARGRAFFIAD A-B SECOND EDITION
|
Ffeil PDF file
|
Rhan 1 (a - adwedd1)
|
Part 1
|
Cyhoeddwyd Awst 2003 Published August 2003
|
Manylion
Details
|
Rhan 2 (adwedd1 - anghlud)
|
Part 2
|
Cyhoeddwyd Rhagfyr 2003
Published December 2003
|
Manylion
Details
|
Rhan 3 (anghludadwy -
amaethyddes)
|
Part 3
|
Cyhoeddwyd Awst 2004
Published August 2004
|
Manylion
Details
|
Rhan 4 (amaethyddiad - anafod)
|
Part 4
|
Cyhoeddwyd Chwefror 2005
Published February 2005
|
Manylion
Details
|
Rhan 5 (anafod - anneinamig)
|
Part 5
|
Cyhoeddwyd Medi 2005
Published September 2005
|
Manylion
Details
|
Rhan 6 (anneir - anweledig)
|
Part 6
|
Cyhoeddwyd Mai 2006
Published May 2006
|
Manylion
Details
|
Rhan 7 (anweledig - arffedogaeth)
|
Part 7
|
Cyhoeddwyd
Rhagfyr 2006 Published December 2006
|
Manylion
Details
|
Rhan 8 (arffedogaeth - atchwelaf )
|
Part 8
|
Cyhoeddwyd Medi 2007
Published September 2007
|
Manylion
Details
|
Rhan 9 (atchwelaf - bar1)
|
Part 9
|
Cyhoeddwyd Medi 2009
Published September 2009
|
Manylion
Details
|
Rhan 10 (bar1 - bil1)
|
Part 10
|
Cyhoeddwyd Ebrill 2010
Published April 2010
|
Manylion
Details
|
Rhan 11 (bil1 - bôn)
|
Part 11
|
Cyhoeddwyd Ebrill 2012
Published April 2012
|
Manylion
Details
|
Rhan 12 (bôn - briffaf)
|
Part 12
|
Cyhoeddwyd Rhagfyr 2012
Published December 2012
|
Manylion
Details
|
Gwaith mewn llaw
Work in progress
|
Rhan 13 / Part 13
|
brig -
brigeraidd
|
gpc0324xb.pdf [0.5Mb]
|
brigerben - brigyn
|
gpc0325xb.pdf [0.5Mb]
|
brigynnog - brithder
|
gpc0326xb.pdf [0.5Mb]
|
brithdir - brithosod
|
gpc0327xb.pdf [0.5Mb]
|
FERSIWN CRYNO O'R ARGRAFFIAD CYNTAF
(Dangoseiriau, rhannau ymadrodd, cyfystyron Saesneg, croesgyfeiriadau, cyfuniadau, amrywiadau,
dyddiadau ymddangos cyntaf)
|
CONCISE VERSION OF THE FIRST EDITION (Headwords, parts of speech,
English synonyms, cross-references, combinations, variant forms, dates of earliest attestations)
|
Cyn bo hir gobeithir y bydd fersiwn electronig
o'r Geiriadur y mae modd ei chwilio ar lein, ond yn y cyfamser mae'r ffeiliau
PDF hyn yn cynnwys pob dangosair yn yr argraffiad cyntaf, ynghyd â'r
rhannau ymadrodd a chroesgyfeiriadau perthnasol, cyfystyron Saesneg, a'r dyddiadau cyntaf ar gyfer pob prif
ystyr. Dros haf 2006 ychwanegwyd yr holl gyfuniadau a'u hystyron a'r amryiadau, gan
gynnwys eu dyddiadau cynharaf.
Ar hyn o bryd, ceir yr holl wybodaeth ar ffurf set o ddeg ffeil PDF fawr (tua
3-4MB yr un), felly mae cysylltiad cyflym
yn angenrheidiol i'w defnyddio. Gellir chwilio'r ffeiliau gyda'i gilydd gyda'r fersiynau
diweddaraf o Adobe Acrobat Reader
(fersiwn 5 neu'n uwch).
D.S. Mae llawer o gywiriadau yn y ffeiliau
newydd hyn - ni ddylid defnyddio'r fersiynau
blaenorol (DangoseiriauGPC001.pdf, GPC0011.pdf
, GPC0015.pdf, GPC0017-01 i GPC0017-10) bellach.
Er mwyn diogelu hawliau deallusol
y Brifysgol ar y Geiriadur, nid oes modd copïo'r testun na'i brintio o fewn Adobe Acrobat Reader
na newid y testun. Ni cheir throsglwyddo copïau o'r ffeil PDF i eraill - dylid eu hannog i lawrlwytho'r
fersiwn diweddaraf.
Dylid cofio mai testun yr Argraffiad Cyntaf yn unig o'r Geiriadur a gynhwysir yn y ffeiliau
hyn, ac oherwydd ei fod yn waith mewn llaw, erys llawer o wallau ynddo o hyd.
Croesewir sylwadau adeiladol, a hefyd gywiriadau ac ychwanegiadau megis enghreifftiau cynharach, ffurfiau lleol neu
dafodieithol, tystiolaeth o enwau lleoedd, etc. Dylid e-bostio sylwadau o'r fath at:
geiriadur@cymru.ac.uk. Gwerthfawrogir eich cymorth.
Ceir esboniad o'r byrfoddau a'r symbolau a ddefnyddir yn y ffeiliau PDF canlynol:
Byrfoddau
Cymraeg (wedi eu hegluro yn Gymraeg)
Byrfoddau
Cymraeg (wedi eu hegluro yn Saesneg)
Byrfoddau
Saesneg (wedi eu hegluro yn Saesneg)
Gwaith mewn llaw yw hwn a chroesewir cywiriadau ac ychwanegiadau o bob math. Anfonwch at
geiriadur@cymru.ac.uk.
PWYSIG: Er mwyn cyflymu'r proses o chwilio'r Geiriadur, bydd yn llawer cynt i chi arbed y ffeil
iau i'ch cyfrifiadur, a'u
chwilio ar hwnnw gydag Adobe Acrobat Reader
(fersiwn 5 neu'n uwch). Fe'ch cynghorir i siecio'n rheolaidd bod y fersiwn diweddaraf o'r
ffeiliau gennych gan fod gwallau yn cael eu cywiro o hyd.
|
We hope to have available soon a concise interactive version of the Dictionary, but
until then we offer the following PDF files which contain every headword from the first edition, together with the
corresponding parts of speech and cross-references, English synonyms, and dates of earliest attestation for each major sense.
Over the summer of 2006 all the combinations and their meanings and the variant forms were added, together with their earliest
dates of attestation.
At present, all the information is available in a set of ten large file (about 3-4MB each), so a fast connection is
essential to make use of it. The latest versions of
Adobe Acrobat Reader (version 5 or greater)
can be used to search the files together.
N.B. There are numerous corrections in these new files - the previous versions (DangoseiriauGPC001.pdf, GPC0011.pdf,
GPC0015.pdf, GPC0017-01 to GPC0017-10) should no longer be used.
In order to protect the University's intellectual rights to the Dictionary,
the text may not be copied or printed within Adobe Acrobat Reader nor may the text be edited. You may not transfer
any copies of the PDF file to others - please encourage them to download the latest version.
Please remember that these files contain the text of the First Edition
of the Dictionary only, and that being work in progress they still contain many errors. Constructive comments will
be most welcome, as will corrections and additions such as antedatings, additional information about regional or
dialect forms, place-name evidence, etc. Such comments should be e-mailed to:
dictionary@wales.ac.uk. Your help is very much appreciated.
Explanations of the abbreviations and symbols used can be found in the following
PDF files:
Welsh abbreviations
(explained in Welsh)
Welsh abbreviations
(explained in English)
English abbreviations
(explained in English)
This is work in progress, and any corrections and additions are most welcome.
Please contactdictionary@wales.ac.uk.
IMPORTANT
:
In order to search the Dictionary more quickly, you are advised to download the files to your computer and to search
them there withAdobe Acrobat Reader
(version 5 or greater). You are advised to check regularly that you have the latest version of the files as mistakes are
corrected continually. |
|
|